Ein cynigion

Rydym ni’n cynnig cysylltiad 132kV newydd i gludo ynni glân ac adnewyddadwy o barc ynni Lan Fawr, Ceredigion, i is-orsaf newydd y National Grid yn Llandyfaelog, Sir Gaerfyrddin.
Yn dilyn ein hymgynghoriad cyntaf, rydym ni wedi datblygu ein cynigion i ymateb i adborth a’n hasesiadau parhaus.
Rydym ni wedi defnyddio’r rhain i lunio aliniad llwybr drafft, sy’n dangos lleoliadau arfaethedig y peilonau a’r seilwaith ychwanegol sydd ei angen arnom.
Mae ein cynigion yn cynnwys:
- Aliniad llwybr drafft sy’n dangos y lleoliadau arfaethedig ar gyfer peilonau, gan geisio cadw’r effeithiau mor isel ag y gallwn ar gymunedau a’r dirwedd.
- Aliniad llwybr drafft newydd ger Cwm-ann, fel ei fod ymhellach i ffwrdd o’r cartrefi a’r ysgol gynradd.
- Gosod ceblau o dan y ddaear yn ardal Bryn Myrddin i gydnabod ei harwyddocâd diwylliannol a hanesyddol.
- Gosod ceblau o dan y ddaear ger is-orsaf arfaethedig Llandyfaelog i helpu i reoli effeithiau gweledol mewn ardal lle mae seilwaith eisoes yn bodoli.

I gael gwybodaeth fanylach am ein cynigion, gweler ein llyfryn ymgynghori Cam Dau
Llinell amser gyfredol y prosiect
lonawr - Ymgynghoriad cyhoeddus cyntaf
Ail ymgynghoriad cyhoeddus
Trydydd ymgynghoriad cyhoeddus (statudol)
Cyflwynir y cais i PEDW i'w adolygu
Penderfyniad disgwyliedig ar y cais
Bydd y gwaith adeiladu yn dechrau os caiff y prosiect ei ganiatáu
Prosiect Tywi Teifi yn weithredol
Mae eich dyfodol clyfar ac adnewyddadwy yn dechrau heddiw.
Eisiau cael yr wybodaeth ddiweddaraf?
Cofrestrwch eich manylion cyswllt gyda ni os ydych chi’n awyddus i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ein prosiect.
Cofrestrwch yma