Y Prosiect

Trosolwg o'r ymgynghoriad

Mae ein hymghyngoriad cam un ar gysylltiad Tywi Teifi wedi dod i ben

Hoffem ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad ac a rannodd adborth.

Tra bod yr ymgynghoriad wedi dod i ben, bydd tîm y prosiect yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid a’r gymuned wrth i’r prosiect ddatblygu.

Yn ein hymgynghoriad anstatudol cyntaf fe wnaethom ofyn am adborth ar y llwybr a ffefrir gennym ar gyfer llinell uwchben o barc ynni bosib Lan Fawr i is-orsaf y Grid Cenedlaethol yn Llandafaelog.

Camau nesaf

Bydd yr holl adborth a gawsom yn cael ei adolygu, ei gofnodi a'i ystyried yn ofalus wrth i'r prosiect ddatblygu.

Byddwn yn defnyddio’ch adborth i adolygu’r penderfyniadau rydym wedi’u gwneud hyd yma ac i lywio ein gwaith wrth symud ymlaen. Byddwn hefyd yn cynnal arolygon yn yr ardal i ddeall mwy am yr amgylchedd lleol. Bydd ein camau nesaf yn cynnwys llwybro manylach, a nodi lleoliadau ar gyfer peilonau a seilwaith ychwanegol.

Bydd rhagor o wybodaeth am y cynnig ar gael yn ein rownd nesaf o ymgynghori, sydd wedi'i threfnu ar hyn o bryd ar gyfer 2025. Byddwn yn cyhoeddi Adroddiad cryno o’r adborth maes o law, a fydd yn amlinellu themâu allweddol a mewnwelediadau a gymerwyd o'r adborth a dderbyniwyd.

Mae eich dyfodol craffach, adnewyddadwy yn dechrau heddiw.

Eisiau cael y wybodaeth ddiweddaraf?

Cofrestrwch eich manylion cyswllt gyda ni os hoffech gael gwybod am ein prosiect.

Cofrestrwch yma