Green GEN Tywi Teifi
Diolch i bawb a gymerodd ran. Rydyn ni’n adolygu’r holl adborth yn ofalus a byddwn yn cyhoeddi crynodeb o sylwadau pobl yn ystod y misoedd nesaf.

Rydym ni wrthi’n datblygu cysylltiad trydan 132kV newydd rhwng Parc Ynni Lan Fawr (i’r dwyrain o Landdewi Brefi, Ceredigion) i is-orsaf newydd y National Grid yn Llandyfaelog, Sir Gaerfyrddin – er mwyn datblygu rhwydwaith trydan cryfach a mwy cadarn i Gymru, sy’n cynnig ynni glân ac adnewyddadwy i’n busnesau a’n cymunedau.
Mae angen y cysylltiad newydd hwn i ychwanegu capasiti at y rhwydwaith lleol, gan ddarparu’r seilwaith angenrheidiol i gysylltu ynni adnewyddadwy â chartrefi a busnesau. Gallai hefyd helpu i gefnogi’r gwaith o gyflwyno systemau gwresogi trydan a cherbydau trydan yn eang, gan helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.
Mae ein cynigion diweddaraf wedi cael eu dylanwadu gan yr adborth a gawsom gan gymunedau lleol a rhanddeiliaid technegol fel rhan o’n hymgynghoriad cyntaf yn 2024, ochr yn ochr â’n hasesiadau ein hunain.
Aliniad llwybr drafft
Gweld y map rhyngweithiol

Mae eich dyfodol clyfar ac adnewyddadwy yn dechrau heddiw.
Eisiau cael yr wybodaeth ddiweddaraf?
Cofrestrwch eich manylion cyswllt gyda ni os ydych chi’n awyddus i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ein prosiect.
Cofrestrwch yma