Y Prosiect

Ein cynigion

Mae Green GEN Cymru yn cynnig llinell uwchben 132kV newydd i gysylltu Parc Ynni Lan Fawr yng Ngorllewin Cymru ag is-orsaf newydd y National Grid yng Nghaerfyrddin.

Nid oes gan y rhwydwaith trydan presennol y capasiti i gysylltu’r parciau ynni arfaethedig.

Mae Green GEN Cymru yn darparu cysylltiad newydd er mwyn gallu defnyddio’r ynni sy’n cael ei gynhyrchu mewn cartrefi a busnesau, yn lleol ac yn genedlaethol.

Mae angen i’r cysylltiad newydd fod â digon o gapasiti i gludo’r ynni o Lan Fawr, a datblygiadau gwynt posibl eraill ar y tir yng ngorllewin Cymru, i’r Grid Cenedlaethol.

Rydyn ni wedi asesu opsiynau ar gyfer sut a ble i gysylltu’r Parciau Ynni newydd â’r rhwydwaith presennol, gan edrych ar opsiynau yn y Gogledd ac yn y De.

Y ffordd fwyaf effeithiol o wneud hyn yw drwy gysylltiad 132kV newydd â’r rhwydwaith trawsyrru trydan cenedlaethol yng Nghaerfyrddin.

Gwnaethom hefyd asesu opsiynau ar gyfer llwybr y cysylltiad newydd. Wrth adolygu pa lwybr fyddai’n cael ei ffafrio, fe wnaethom ystyried Rheolau Holford, a oedd yn nodi egwyddorion ar gyfer gosod llwybrau llinellau uwchben, gan gynnwys dewis cefndiroedd naturiol yn hytrach na chefndiroedd awyr, a defnyddio dyffrynnoedd agored gydag ardaloedd coediog yn hytrach nag ardaloedd mewn mannau uchel.

Yr opsiynau gorau oedd cysylltu â phwynt ger Caerfyrddin, gyda llwybr drwy ddyffryn Teifi.

Roedd effeithiau gweledol ac effeithiau ar y gymuned yn bwysig i ni pan wnaethom nodi’r llwybr hwn.

Am ragor o wybodaeth am Barc Ynni Lan Fawr, ewch i wefan y prosiect: www.lanfawrenergypark.wales

Animeiddiad o’r prosiect

Gwyliwch ein hanimeiddiad o’r prosiect i gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, sut mae’n cysylltu â’r rhwydwaith trydan a pham ei fod yn hanfodol.

Y llwybr sy’n cael ei ffafrio gennym

Mae’r llwybr rydyn ni’n ei ffafrio wedi’i amlinellu ar y map isod. Mae wedi’i rannu’n bum adran i’w gwneud hi’n haws rhoi adborth.

Rydyn ni wedi trefnu ein cynigion yn fap llinol o’r prosiect gyda’r llwybr sy’n cael ei ffafrio fel llinell yn unig. Mae rhagor o wybodaeth am bob adran a’r hyn sydd wedi dylanwadu ar ein penderfyniadau ar gael ar y dudalen y llwybr sy’n cael ei ffafrio gennym.

Ein map llwybr dewisol

Y broses gynllunio

Mae prosiect Tywi Teifi yn cael ei ystyried yn Ddatblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS) yng Nghymru. Y rheswm am hyn yw mai llinell drydan uwchben 132kV yw’r prosiect sy’n gysylltiedig â gorsaf gynhyrchu ddatganoledig. Yn yr achos hwn, yr orsaf gynhyrchu ddatganoledig yw Parc Ynni Lan Fawr a gynigir gan Bute Energy.

Bydd y cais, felly, yn cael ei gyflwyno i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW) i’w adolygu, cyn y bydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud gan Weinidogion Cymru.

Fel Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol, mae’r prosiect yn rhwym wrth lawer o ofynion, gan gynnwys asesiad amgylcheddol trylwyr ac ymgynghoriad cyhoeddus â’r gymuned a rhanddeiliaid.

Wind farm connecting to the route

Llinell amser y prosiect

Sgroliwch

Ionawr – Ymgynghoriad cyhoeddus cyntaf

2024

Ail ymgynghoriad cyhoeddus

2025

Trydydd ymgynghoriad cyhoeddus (statudol)

2026

Cyflwyno’r cais i PEDW i’w adolygu

2026

Y Gaeaf – y cynharaf y byddai’r cais yn cael ei benderfynu

2026

Gwaith adeiladu’n dechrau os yw’r prosiect yn cael cydsyniad

2027

Prosiect Tywi Teifi yn weithredol

2028

Mae eich dyfodol craffach, adnewyddadwy yn dechrau heddiw.

Eisiau cael y wybodaeth ddiweddaraf?

Cofrestrwch eich manylion cyswllt gyda ni os hoffech gael gwybod am ein prosiect.

Cofrestrwch yma