Pam mae angen y cysylltiad

Mae cryfhau capasiti’r grid yn allweddol i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.
Bydd angen mwy o gapasiti grid er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, i gysylltu datblygiadau adnewyddadwy newydd, i ehangu busnesau, ac i gefnogi’r gwaith o drydaneiddio ein systemau gwresogi a thrafnidiaeth.
Mae’r rhain yn heriau y mae Cymru’n eu hwynebu – heriau y mae angen mynd i’r afael â nhw ar frys, a heriau y mae Green GEN Cymru yn ceisio helpu i fynd i’r afael â nhw.
Mae llawer o ynni glân, adnewyddadwy yn cael ei greu yng Nghymru – yn enwedig o’r gwynt sy’n chwythu ar draws ein bryniau a’n mynyddoedd. Mae parciau ynni newydd wedi’u cynnig yng Nghymru, ond nid oes gan y rhwydwaith trydan presennol y capasiti i’w cysylltu.
Fel Gweithredwr Rhwydwaith Dosbarthu Annibynnol, rôl Green GEN Cymru yw darparu cysylltiad ar gyfer cynhyrchwyr ynni a defnyddwyr.
Heb gysylltiad, ni allai’r ynni adnewyddadwy a ddarperir gan y parciau ynni arfaethedig hyn fod ar gael i gymunedau a busnesau, yn lleol nac yn genedlaethol.
Os na fyddwn yn uwchraddio’r rhwydwaith trydan presennol yn gyflym, mae perygl y byddwn yn methu cyrraedd targedau ynni adnewyddadwy ac yn methu â mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Gallai prosiect Tywi Teifi chwarae rhan bwysig yn y gwaith o fynd i’r afael â’r pryderon hyn drwy ddarparu ynni glân, adnewyddadwy o ble mae’n cael ei gynhyrchu i’r cymunedau a’r busnesau sydd ei angen.
Mae ychwanegu capasiti grid angenrheidiol yn golygu:

"Rydym wedi ymrwymo i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd ac yn cydnabod bod gennym rôl sylweddol i’w chwarae o ran lleihau ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr ein hunain ymhellach a darparu’r arweiniad i annog trigolion, busnesau a sefydliadau eraill i weithredu."
Cynllun Gweithredu Carbin Net Cyngor Sir Gâr
"Wrth i'r argyfwng ynni byd-eang ddyfnhau, mae costau ynni domestig yn codi'n aruthrol, ac wrth i'r bom trychineb hinsawdd dicio'n fwyfwy byddarol, ni fu'r achos dros gyflymu datblygiad ynni adnewyddadwy erioed yn gryfach."
Ynni Adnewyddadwy Yng Nghymru - Llywodraeth Cymru
"Mae angen ymateb i’r argyfwng hinsawdd ar bob lefel. Yng Ngheredigion mae angen i ni ymateb ar lefel sirol ac felly mae angen i sefydliadau ac unigolion o bob rhan o’r sir ddod at ei gilydd i ddod o hyd i atebion a sicrhau bod newid sylweddol yn digwydd yn gyflym."
Cyflawni Sero Net erbyn 2030 - Cyngor Sir Gâr
"Mae newid i system ynni ddatgarbonedig fodern, seiliedig ar le, sy’n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain yn cyflwyno heriau sylweddol, ond mae ganddi hefyd y potensial i ddod â budd mawr, i’r amgylchedd ac i les cymdeithasol ein cymunedau."
Strategaeth Ynni Canolbarth Cymru
Rhowch eich adborth
I gwblhau ffurflen adborth ar-lein, cliciwch y saeth gerllaw.
Rhowch eich adborthMae eich dyfodol clyfar ac adnewyddadwy yn dechrau heddiw.
Eisiau cael yr wybodaeth ddiweddaraf?
Cofrestrwch eich manylion cyswllt gyda ni os ydych chi’n awyddus i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ein prosiect.
Cofrestrwch yma