Amdanom ni

Rydym ni’n gweithio i ddatblygu rhwydwaith trydan cryfach a mwy cadarn ar gyfer Cymru a’r tu hwnt – gan ddosbarthu ynni glân a gwyrdd i gartrefi, ysbytai, ysgolion, busnesau a chymunedau.
Rydym ni’n chwarae rhan allweddol yn y gwaith o ddatblygu rhwydwaith dosbarthu cadarn a dibynadwy a fydd yn gallu helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng ynni, yr argyfwng hinsawdd â’r argyfwng costau byw, gan rymuso cymunedau gwledig drwy leihau’r pwysau ar y grid presennol.
Rydym ni wedi ymrwymo i weithio’n agos gyda chymunedau a rhanddeiliaid yng Nghymru wrth i ni ddatblygu ein cynlluniau, er mwyn manteisio i’r eithaf ar y buddion a lleihau’r effeithiau i bobl leol.

Ein trwydded Gweithredwr Rhwydwaith Dosbarthu Annibynnol (IDNO)
Fel Gweithredwr Rhwydwaith Dosbarthu Annibynnol (IDNO), nod rhwydwaith arfaethedig Green GEN Cymru yw datgloi potensial ynni Cymru a chefnogi, cyflymu a galluogi’r gwaith o newid i sero net.
Mae angen seilwaith grid newydd i gryfhau cadernid ynni, ychwanegu capasiti at y rhwydwaith lleol, a helpu i baratoi’r ffordd ar gyfer cyflwyno cerbydau trydan a gwresogi gwyrdd yn eang.
Mae trwydded IDNO yn ein galluogi i weithredu rhwydweithiau dosbarthu trydan, gan gefnogi’r galw cynyddol am ynni adnewyddadwy ledled y wlad. Fel busnes rheoledig, gall ein rhwydwaith dosbarthu trydan hefyd ganiatáu cysylltiad uniongyrchol ar gyfer defnyddwyr ynni – fel busnesau ac adeiladau cyhoeddus, a chynhyrchwyr ynni newydd fel prosiectau cymunedol a phrosiectau adnewyddadwy eraill.
Rydym ni’n gwahodd darpar gwsmeriaid, gan gynnwys cynhyrchwyr ynni a defnyddwyr ynni, i gyflwyno datganiad o ddiddordeb. Os hoffech chi gysylltu â’n rhwydwaith, neu os oes gennych chi ddiddordeb mewn trafodaeth ddichonoldeb gychwynnol, cysylltwch â customerconnections@greengencymru.com.
Rhowch eich adborth
I gwblhau ffurflen adborth ar-lein, cliciwch y saeth gerllaw.
Rhowch eich adborthMae eich dyfodol clyfar ac adnewyddadwy yn dechrau heddiw.
Eisiau cael yr wybodaeth ddiweddaraf?
Cofrestrwch eich manylion cyswllt gyda ni os ydych chi’n awyddus i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ein prosiect.
Cofrestrwch yma