Cyflwyno adborth
Mae’r adborth rydyn ni wedi’i gael hyd yma gan bobl leol, perchnogion tir sefydliadau arbenigol wedi bod yn bwysig wrth i ni ddatblygu ein cynigion a’n hasesiadau.
Gallwch ddylanwadu ar ein cynigion o hyd, a hoffem gael eich adborth er mwyn i ni allu parhau i edrych ar ffyrdd o gadw’r effeithiau mor isel â phosibl. Dywedwch wrthym a oes unrhyw newidiadau y credwch y gallwn eu gwneud i’w gwella neu i leihau effeithiau ac, yn bwysicaf oll, pam.
Rydym ni’n gofyn am adborth ar y canlynol:
- Ein haliniad llwybr drafft, gan gynnwys lleoliadau arfaethedig y peilonau a rhannau o’r gwaith gosod ceblau o dan y ddaear.
- Unrhyw wybodaeth neu effeithiau y dylem eu hystyried wrth adolygu a datblygu ein cynigion.
Dim ond adborth am ein cynigion ni y gallwn ei ystyried, ac nid themâu ehangach fel cynhyrchu ynni na pholisïau'r llywodraeth.
Rydym ni wedi trefnu’r aliniad llwybr drafft yn bum rhan. Mae’r ffurflen adborth wedi’i threfnu’n adrannau tebyg, ac mae lle hefyd i ddarparu adborth ehangach sy’n benodol i’r prosiect cyffredinol.
Cyflwynwch eich adborth i ni erbyn 23:59 ddydd Mercher 16 Ebrill 2025. Mae’n bosib na fydd unrhyw adborth a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn yn cael ei ystyried gan ein tîm. Bydd yr holl adborth a gawn yn cael ei adolygu a’i ystyried yn ofalus wrth i ni ddatblygu ein cynlluniau.
Po fwyaf o fanylion y gallwch eu darparu, y gorau y gallwn ddeall effeithiau posibl ein gwaith. Rydym ni’n edrych ymlaen at gael eich adborth.
Mae sawl ffordd o ddarparu adborth.
- Llenwi’r ffurflen adborth ar ein gwefan: www.greengentowyteifi.com/cy
- Copi caled o’r ffurflen adborth, sydd ar gael mewn digwyddiadau ymgynghori neu ar gais
- Anfon neges e-bost i: info@greengentowyteifi.com
- anfon adborth ysgrifenedig i: RHADBOST GREEN GEN CYMRU TT
Rhowch eich adborth
I gwblhau ffurflen adborth ar-lein, cliciwch y saeth gerllaw.
Rhowch eich adborthMae eich dyfodol clyfar ac adnewyddadwy yn dechrau heddiw.
Eisiau cael yr wybodaeth ddiweddaraf?
Cofrestrwch eich manylion cyswllt gyda ni os ydych chi’n awyddus i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ein prosiect.
Cofrestrwch yma