Mon Aug 19 2024
Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PCAC) yn rhoi barn ar ein hadroddiad cwmpasu
Yn gynharach eleni cyflwynwyd ein hadroddiad cwmpasu i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PCAC). Mae adroddiad cwmpasu yn amlinellu'r hyn y bwriadwn ei gynnwys yn ein Datganiad Amgylcheddol. Bydd hwn yn adrodd ar effeithiau posibl ein cynigion ar yr amgylchedd.
Rydym bellach wedi derbyn Barn Gwmpasu gan PCAC. Gallwch weld adroddiad y prosiect a Barn Gwmpasu PCAC ar eu gwefan trwy chwilio’r cyfeirnod achos canlynol (CAS-03094-T7D9G0) yma.
Mae hwn yn gam pwysig tuag at gwblhau asesiadau pellach fel rhan o’n cais, gan sicrhau bod y gwaith rydym yn ei gynnig yn bodloni’r safonau a osodwyd gan PEDW a rhanddeiliaid allweddol yn yr ardal.