Y Prosiect

Amdanom ni

Darparu rhwydwaith ynni gwyrdd i Gymru.
Rydyn ni’n gweithredu nawr i adeiladu a gweithredu rhwydwaith ynni gwyrdd i Gymru, a fydd yn sicrhau bod 100% o ynni adnewyddadwy yn gallu cyrraedd ein cartrefi, ein hysbytai, ein hysgolion, ein busnesau a’n cymunedau.

Rydyn ni’n fusnes annibynnol sy’n tyfu’n gyflym sy’n cael ei ariannu 100% gan Grŵp Bute Energy a’i bartneriaid buddsoddi.

Rydyn ni’n chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o greu rhwydwaith mwy cadarn a dibynadwy – mewn dyfodol lle mae pob un ohonom yn dibynnu mwy ar drydan, wrth i ni symud oddi wrth nwy ac olew. Mae gennym weledigaeth o Gymru iachach a chyfoethocach sy’n defnyddio cynhyrchu ynni fel pŵer cadarnhaol i’r byd, i Gymru, i gymunedau lleol – i’r genhedlaeth hon ac i genedlaethau’r dyfodol.

Mae Bute Energy yn cynnig portffolio o Barciau Ynni ac mae Green GEN Cymru yn eu cysylltu, gan ymateb i her newid yn yr hinsawdd drwy ddatblygu rhwydwaith trydan adnewyddadwy cryfach a mwy gwydn sy’n fawr ei angen ar Gymru – gan ddosbarthu ynni glân a gwyrdd.

Mae potensial di-ben-draw i ynni adnewyddadwy yng Nghymru – yn enwedig o’r gwynt sy’n chwythu ar draws ein bryniau a’n mynyddoedd. Ond mae’r ynni gwyrdd hwn yn cael ei ddal yn ardaloedd gwyntog Cymru, ac mae angen i ni sicrhau ei fod yn cyrraedd y cartrefi, yr ysbytai, yr ysgolion, y busnesau a’r cymunedau sydd ei angen. Bydd Green GEN Cymru yn diwallu’r angen hwn.

Gweithredwr Rhwydwaith Dosbarthu Annibynnol

Mae Green GEN Cymru yn gwneud cais i Ofgem am drwydded drydan fel Gweithredwr Rhwydwaith Dosbarthu Annibynnol (IDNO), gyda chynlluniau i adeiladu a gweithredu rhwydwaith trydan ar gyfer ynni adnewyddadwy newydd. Bydd ein cysylltiadau’n sicrhau bod ynni adnewyddadwy yn cael ei gludo i’n cartrefi, ein hysbytai, ein hysgolion, ein busnesau a’n cymunedau.

Cronfa Budd Cymunedol Bute Energy

Cronfa Budd Cymunedol Bute Energy

Bydd Grŵp Bute Energy yn buddsoddi miliynau o bunnoedd mewn cymunedau sydd agosaf at eu prosiectau.

Gallai Bute Energy fuddsoddi tua £800 miliwn yn y gronfa drwy gydol oes y prosiectau, gydag oddeutu £20 miliwn y flwyddyn i gymunedau, i gyd yn cael eu hariannu gan barciau ynni Bute os rhoddir caniatâd.

Am y tro cyntaf yn y diwydiant, bydd Bute yn talu £7,500 fesul Megawat (MW) o gapasiti wedi’i osod yn y gronfa a fydd wedyn yn cael ei rannu â chymunedau sydd agosaf at eu prosiectau. Mae’r gronfa budd cymunedol bellach wedi cael ei hymestyn i gynnwys cymunedau sydd agosaf at brosiectau cysylltu Green GEN Cymru, gan gynnwys Tywi Teifi.

Mae’r gronfa eisoes yn cefnogi grwpiau, elusennau a gwasanaethau lleol. Mae’n cefnogi eu gwaith, yn meithrin prosiectau arloesol ar gyfer pobl leol, ac yn hwyluso cydweithio ar gyfer prosiectau gwaddol ar raddfa fawr, gyda’r nod o gadw cymaint â phosibl o’n buddsoddiad yng Nghymru er budd cymunedau lleol.

Rydyn ni’n gweithio gyda chymunedau drwy wneud y canlynol:

  • cefnogi gwelliannau hamdden, iechyd a llesiant

  • gwella’r ddarpariaeth addysg leol

  • nodi rhagor o lwybrau at gyflogaeth i bobl leol

  • tynnu sylw at gyfleoedd i ddathlu a hyrwyddo diwylliant, treftadaeth a bioamrywiaeth lleol

Os oes gennych chi syniad ble hoffech chi weld yr arian hwn yn cael ei fuddsoddi, rydyn ni’n eich annog i gysylltu drwy ein llinellau cysylltiadau cymunedol.

Animeiddiad o’r prosiect

Gwyliwch ein hanimeiddiad o’r prosiect i gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, sut mae’n cysylltu â’r rhwydwaith trydan a pham ei fod yn hanfodol.

Mae eich dyfodol craffach, adnewyddadwy yn dechrau heddiw.

Eisiau cael y wybodaeth ddiweddaraf?

Cofrestrwch eich manylion cyswllt gyda ni os hoffech gael gwybod am ein prosiect.

Cofrestrwch yma