Y prosiect

Pam mae angen y prosiect

Mae newid yn yr hinsawdd yn bygwth ein bywoliaeth, ein tirweddau a’n bywyd gwyllt.
Mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.

Mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.

Mae heriau newid yn yr hinsawdd yn cael eu cydnabod yn dda gan Lywodraeth Cymru, a’r awdurdodau lleol yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.

Mae’r ddau gyngor wedi datgan argyfyngau hinsawdd ac wedi adrodd bod effeithiau newid yn yr hinsawdd eisoes yn cael eu gweld yn y siroedd. Rydyn ni’n cydnabod bod gan bobl safbwyntiau gwahanol ar seilwaith newydd, a bod ganddynt bryderon am beilonau yn y dirwedd. Mae darparu’r seilwaith sydd ei angen arnom i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd yn galw am gydbwysedd gofalus. Rydyn ni’n canolbwyntio ar darfu cyn lleied â phosibl ar yr amgylchedd a’r bobl sy’n byw, yn gweithio ac yn mwynhau gweithgareddau hamdden yn agos at ein cynigion.

Mae Llywodraeth Cymru am gyflymu’r gwaith o ddatblygu ynni adnewyddadwy fel rhan o’u cynlluniau i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Wrth i ni symud oddi wrth danwydd ffosil, bydd cynhyrchu ynni newydd yn cael ei leoli lle gall ddal ffynonellau cynaliadwy fel gwynt, ynni llanw a solar. Bydd y grid trydan hefyd yn newid i gysylltu’r ffynonellau newydd hyn â chartrefi a busnesau a lle bynnag y bydd y trydan newydd wedi’i leoli, bydd angen datblygu cysylltiadau grid newydd. Yng Nghymru, cynigir ffermydd gwynt newydd ac nid oes gan y rhwydwaith trydan presennol y gallu i'w cysylltu – i ddod â'r defnydd o danwydd ffosil i ben mae angen seilwaith newydd ac mae angen hynny’n gyflym.

Sut rydyn ni’n mynd i’r afael â’r heriau hyn

Sut rydyn ni’n mynd i’r afael â’r heriau hyn

Mae cynhyrchu mwy o ynni o ffynonellau adnewyddadwy a rhoi terfyn ar ddefnyddio tanwydd ffosil yn nod allweddol wrth fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.

Mae’r seilwaith sydd ei angen arnom i bontio i economi carbon isel hefyd yn gallu dod â llawer o fanteision. Mae ganddo’r potensial i greu sgiliau a swyddi newydd, yn genedlaethol ac yn lleol. Bydd yn cefnogi’r defnydd o dechnolegau carbon isel yn ein cartrefi a’n busnesau.

Bydd mynd i’r afael â’r heriau hyn a chyflawni’r cyfleoedd hyn yn arwain at newid sylweddol yn y ffordd mae ynni’n cael ei gynhyrchu a’i gysylltu.

Mae ynni adnewyddadwy yn cael ei ddatblygu mewn ardaloedd newydd a bydd angen i’r grid trydan newid er mwyn ei gysylltu â chartrefi a busnesau. Bydd prosiect Green GEN Cymru Tywi Teifi yn helpu i gyflawni’r blaenoriaethau hyn – gan gysylltu ynni glân yn gyflym ac yn effeithlon i helpu i fynd i'r afael â’r argyfwng hinsawdd.

Golyga mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd y canlynol:

Climate Emergency Statistics.

Mae eich dyfodol craffach, adnewyddadwy yn dechrau heddiw.

Eisiau cael y wybodaeth ddiweddaraf?

Cofrestrwch eich manylion cyswllt gyda ni os hoffech gael gwybod am ein prosiect.

Cofrestrwch yma