Ein llwybr dewisol
Wrth ddatblygu’r llwybr a ffefrir buom yn ystyried Rheolau Holford, a oedd yn nodi egwyddorion ar gyfer llwybro llinellau uwchben, gan gynnwys dewis cefndiroedd naturiol yn hytrach na chefndiroedd awyr, a defnyddio dyffrynnoedd agored gydag ardaloedd coediog yn hytrach nag ardaloedd o dir uwch. Yr opsiynau a berfformiodd orau oedd cysylltu â man ger Caerfyrddin, gyda llwybr trwy ddyffryn Teifi. Byddai hyn yn arwain at gyfanswm hyd llwybr o tua 52km. Roedd effeithiau gweledol ac effeithiau ar y gymuned yn bwysig i ni pan wnaethom nodi'r llwybr hwn.
Gweler y map rhyngweithiol o'n llwybr dewisol isod. Os na allwch weld y map rhyngweithiol, efallai y bydd angen i chi newid eich dewisiadau cwci gan ddefnyddio'r eicon bawd ar waelod chwith y dudalen.