Ymgysylltu â pherchnogion tir

Ymgysylltu â pherchnogion tir
Mae Green GEN Cymru wedi ymrwymo i feithrin perthnasoedd gwaith cryf gyda pherchnogion tir a meddianwyr wrth i ni ddatblygu ein cynigion ar gyfer Green GEN Tywi Teifi.
Byddwn ni’n gweithio gyda chi wrth i ni ddatblygu ein cynlluniau, ac rydym ni’n eich annog chi a/neu eich cynrychiolwyr i gysylltu â ni os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.
Mynediad ar gyfer arolygon
Wrth gynllunio a datblygu ein prosiectau, mae angen i ni gynnal arolygon er mwyn helpu i lywio dyluniad y cynllun, yn ogystal ag Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol.
Mae angen i ni arolygu ardal eang er mwyn sicrhau ein bod yn deall yr amgylchedd lleol, sut gallai ein gwaith effeithio arno ac ystyried unrhyw fesurau lliniaru sydd eu hangen. Bydd canlyniadau’r arolygon yn helpu i lywio penderfyniadau ar lwybro a lleoliad prosiect Green GEN Tywi Teifi. Bydd canfyddiadau’r arolygon hyn yn cael eu cynnwys fel rhan o’n Hasesiad o’r Effaith Amgylcheddol a byddant yn ein helpu i ddatblygu aliniad manwl ar gyfer llwybr y llinell uwchben, gan gynnwys lleoliadau ar gyfer peilonau, llwybrau mynediad ac ardaloedd gwaith.
Byddwn ni’n gweithio’n agos gyda pherchnogion tir a meddianwyr er mwyn cytuno ar fynediad er mwyn gallu cynnal arolygon, lle bynnag y bo modd, ar adegau priodol gan achosi cyn lleied â phosib o anghyfleustra. Mae angen cynnal rhai arolygon, fel arolygon adar neu ystlumod, ar adegau penodol o’r flwyddyn i ddarparu gwybodaeth am nythu neu gynefinoedd.
Nid yw caniatáu mynediad at dir i Green GEN Cymru ar gyfer arolygon yn atal perchnogion tir rhag cymryd rhan yn yr ymgynghoriad a gwneud sylwadau am brosiect Green GEN Tywi Teifi ar unrhyw adeg.
Bydd Carter Jonas, ein hasiantau tir, yn parhau i geisio cael cytundebau gwirfoddol gyda pherchnogion tir a meddianwyr ar gyfer mynediad, ond os na ellir gwneud hynny efallai y bydd angen i ni geisio cael pwerau cyfreithiol perthnasol.

Rhagor o wybodaeth
Arolygon amgylcheddol a pheirianneg (PDF, 0.6MB)
Taliadau perchnogion tir (PDF, 1.1MB)
Staying in touch
If you are a landowner and would like further information, please don’t hesitate to contact our lands team on:
Freephone: 0121 794 6250
Email: towyteifi@carterjonas.co.uk
Rhowch eich adborth
I gwblhau ffurflen adborth ar-lein, cliciwch y saeth gerllaw.
Rhowch eich adborthMae eich dyfodol clyfar ac adnewyddadwy yn dechrau heddiw.
Eisiau cael yr wybodaeth ddiweddaraf?
Cofrestrwch eich manylion cyswllt gyda ni os ydych chi’n awyddus i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ein prosiect.
Cofrestrwch yma